31/01/19 00:00:00
Bydd ASTUTE 2020 yn cynnal brecwast am ddim ar y cyd â Busnes a Diwydiant Cymru NatWest yn y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe ddydd Iau 7 Chwefror rhwng 7:30am a 11:30am.
Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar fanteision Technolegau Gweithgynhyrchu yn y Dyfodol ac yn cynnig cyfle i fusnesau glywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr a chynghorwyr busnes am y gefnogaeth sydd ar gael i helpu busnesau i fanteisio ar gyfleoedd ac ychwanegu gwerth at eu busnesau gweithgynhyrchu.
Cofrestrwch eich lle ar-lein nawr: http://bit.ly/futuremanufacturing