English

Gwahodd busnesau i rownd arall o golff o’r radd flaenaf yr haf hwn

10/03/17 00:00:00

undefined

Mae’r Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn a gyflwynir gan Rolex yn dychwelyd i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl fis Gorffennaf eleni ar ôl cynnal y digwyddiad yn llwyddiannus ar y cwrs yn 2014.

Dair blynedd yn ôl, roedd chwaraewyr yn canmol cyflwr rhagorol y cwrs, a daeth torfeydd mawr o bobl i fwynhau pedwar diwrnod o golff glan y môr. Roedd mwy na 43,000 o wylwyr yn dilyn y chwarae a chafwyd cefnogaeth ardderchog i’r bencampwriaeth gan fusnesau, trigolion a gwirfoddolwyr lleol.

Bydd Pencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn eleni yn cynnwys cyn-enillwyr prif gystadlaethau golff a sêr Cwpan Ryder, gan gynnwys Tom Watson, Paul Broadhurst, Ian Woosnam, Colin Montgomerie, Miguel Angel Jiminez, a Bernhard Langer a gymerodd at Glwb Golff Brenhinol Porthcawl pan dorrodd y record yn 2014 drwy ennill o 13 trawiad.

Cynhelir y Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn rhwng 27 a 30 Gorffennaf. Mae tocynnau nawr ar werth ac mae pecynnau lletygarwch hefyd ar gael. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.senioropenchampionship.comneu ffoniwch 0800 023 2557.